Quantcast
Channel: Wales Case Study – The Big Lunchers
Viewing all articles
Browse latest Browse all 21

Parhau â’r Cynnwrf Cymunedol

$
0
0

Mae Emma Knight, o Gastell Nedd yn hen law ar y Cinio Mawr, ac mae wedi cynnal un ers y cychwyn yn 2009!

“Llwyddodd ei stryd hi i ennill gwobrau Cymunedol y Cinio Mawr; a daeth Emma i’r seremoni wobrwyo yn Clarence House i dderbyn ei gwobr gan Ei Mawrhydi Duges Cernyw. Yma, mae hi’n dweud wrthym ni sut y trawsffurfiwyd ei chymuned dros y blynyddoedd ac mae’n rhannu cynghorion sut y gellir cadw’r cynnwrf cymunedol i fynd yn eich ardal chi.

Er gwaetha amheuon pobl ar y cychwyn a’r ofnau na fyddai unrhyw un am ddod, roedd ei Chinio Mawr cyntaf yn llwyddiant enfawr, a daeth mwyafrif y stryd i ymuno yn yr hwyl. Rhoddwyd pobl mewn timau gyda phobl eraill roedden nhw’n eu nabod, a rhai oedd yn ddieithr, a threfnwyd gweithgareddau oedd yn eu hannog i ryngweithio.

Joel from Ethel Street's mini-FAN group

Drwy’r digwyddiad, fe ddiflannodd y teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth oedd yn ein hardal yn gyflym iawn, ac ymhen dim o dro, roedd y stryd yn teimlo fel lle diogel.  Dechreuodd y genhedlaeth hŷn a’r to iau drin ei gilydd gyda mwy o barch a newidiodd agweddau hefyd.

Mae’r grŵp cynllunio a ffurfiwyd gennym i drefnu’r Cinio Mawr, bellach wedi troi yn ‘Gynghrair Cymunedol Ffrindiau a Chymdogion’ (F.A.N) ac rydym yn trefnu nifer o ddigwyddiadau eraill yn ein hardal.  Mae’r bobl ifanc yn y stryd wedi sefydlu ‘Mini F.A.Ns’ hefyd er mwyn hyrwyddo mwy o weithgareddau a digwyddiadau i bobl ifanc, a rhoi mwy o fewnbwn iddynt yn y gymuned.  Maen nhw wedi ffurfio eu grŵp syrcas eu hunain sy’n cynnig sioeau a gweithdai ar draws Castell Nedd, gan roi incwm i’r grŵp, sy’n wych.

Bellach, mae bron pawb ar y stryd yn cyfrannu at gronfa gymunedol drwy beli bonws wythnosol a rafflau – gan greu cronfa i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i’r stryd drwy’r flwyddyn.

Mae Stryd Ethel bellach yn lle bywiog a llawn bywyd; mae pobl y tu allan yn sgwrsio o hyd ac mae rhywbeth i’w wneud yma bob amser.  Mae ein gweithgareddau blynyddol yn amrywio o’r Cinio Mawr, teithiau haf (i tua 106 o bobl!), digwyddiad Calan Gaeaf, a chinio Nadolig, taith i weld pantomeim, a bore coffi Masnach Deg.  Rydym wedi dechrau trawsnewid hen lon gefn yn rhandir trefol. Mae gennym systemau mewn lle i bobl rannu ac ailgartrefu eitemau. Rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, baw ci a sbwriel. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!  Mae’r ymdeimlad o gymuned a pherthyn yn amlwg.

Roeddwn i’n arfer cadw fi fy hun i fi fy hun, ond bellach mae pawb yn gartrefol yn nhai ei gilydd ac yn gwybod beth sy’n digwydd – fel stryd o gymdogion busneslyd,-ond mewn ffordd dda!”

 

Cynghorion Emma i’ch Cinio Mawr:

  • Peidiwch â bod ofn rhannu gwaith – mae’r rhan fwyaf o bobl am helpu
  • Os na fyddwch yn gofyn, ni fyddwch yn cael
  • Cynlluniwch mewn da bryd
  • Gwnewch yn siŵr fod pobl ifanc yn rhan o’r penderfyniadau a wneir
  • Ffurfiwch grŵp a chyfansoddiad – bydd hyn yn eich galluogi i wneud cais am arian ar gyfer prosiectau y byddwch am eu gwneud efallai.
  • Dechreuwch ryw fath o weithgaredd codi arian rheolaidd – hyd yn oed os yw ddim ond yn codi £10 yr wythnos, cyn bo hir bydd gennych swm da.
  • Dewch yn rhan o’ch cymuned leol.  Os ydych ar eich pen eich hun, ymunwch â grŵp neu ddau yn lleol, ewch i gyfarfodydd yr Heddlu a Chymunedau gyda’i Gilydd (PACT)
  • Ceisiwch ddarganfod a ydych mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf  a dewch i adnabod y gweithwyr.
  • Os oes gennych grŵp trigolion yn barod ar eich stryd, ceisiwch gael cynrychiolwyr mewn cynifer o fforymau a grwpiau lleol â phosibl – bydd hyn yn eich cadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn yr ardal, yn creu cyfleoedd, yn darparu cysylltiadau hanfodol i brosiectau’r dyfodol, ac yn bwysicaf oll yn rhoi mwy o lais i aelodau eich grŵp.
  • Ceisiwch gynnwys pawb.  Defnyddiwch gyfuniad o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, neges ar lafar a phosteri / taflenni i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael allan byth

Read this story in English 


Viewing all articles
Browse latest Browse all 21

Trending Articles